Cwmni gwarcheidwaid preswyl
Oddi ar 1993 bu Rheoli Eiddo Camelot yn arweinydd arloesol yn y farchnad diogelu eiddo gwag yn Ewrop. 7 mlynedd yn ôl, Camelot oedd y cwmni cyntaf yn y DU i ddechrau defnyddio’r system Gwarcheidwad Preswyl i ddiogelu eiddo. Mae Camelot yn diogelu eiddo tiriog, masnachol, diwydiannol a phreswyl gwag rhag cael ei fandaleiddio, ei gynnwys a’i ffitiadau wedi’u dwyn, rhag tipio anghyfreithlon, sgwatio a dirywiad cyffredinol. Yn ogystal, byddwn yn cynnig gwasanaethau megis gwarchodwyr 24 awr, patrolau diogelu, cau ag estyll, rheoli cyfleusterau, cadw allweddi, cynnal a chadw, glanhau, garddio, clirio adeiladau, a dadfeddiannu sgwatwyr.

